Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4

Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Medi 2024

Amser: 09.30 - 12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14095


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd)

Peter Fox AS

Mike Hedges AS

Rhianon Passmore AS

Tystion:

 Thomas Nicholls, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllidol, Llywodraeth Cymru

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran y Gyllideb a Busnes yLlywodraeth, Llywodraeth Cymru

Dr Rhys Ap Gwilym, Uwch Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor

Dr Edward Jones, Uwch Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor

Staff y Pwyllgor:

Owain Roberts (Clerc)

Georgina Owen (Ail Glerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Mike Lewis (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Cofrestru

</AI1>

<AI2>

Rhag-gyfarfod preifat

</AI2>

<AI3>

1       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Craffu cyn y Gyllideb: Y Prif Economegydd

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol cyn y Gyllideb gan Thomas Nicholls, Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru; a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddi Cyllid, Llywodraeth Cymru.

 

1.2 Cytunodd y Prif Economegydd i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y canlynol:

 

·         Data Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (neu GDP) blynyddol ar gyfer Cymru,

·         Data cynhyrchiant fesul sector ar gyfer Cymru a’r DU.

 

 

</AI3>

<AI4>

Egwyl

</AI4>

<AI5>

Cyhoeddus

</AI5>

<AI6>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

</AI6>

<AI7>

3       Papur(au) i'w nodi

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

</AI7>

<AI8>

3.1   PTN 1 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25 – 18 Medi 2024

</AI8>

<AI9>

4       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Craffu cyn y Gyllideb: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â chraffu cyn y gyllideb gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes y Gyllideb a'r Llywodraeth, Llywodraeth Cymru.

 

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

 

·         Diweddariad ar gyfarfodydd y dyfodol o fewn haen uchaf y Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC).

 

·         Rhagor o wybodaeth am unrhyw waith modelu neu astudiaethau sy’n ymwneud ag effaith bosibl codi treth incwm a/neu gynyddu nifer y bandiau treth incwm, ar symudiadau trawsffiniol unigolion a swm y refeniw treth incwm a dderbynnir. Yn benodol, unrhyw ddiweddariad ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda Llywodraeth yr Alban a CThEF mewn perthynas ag ymchwil hydredol a wneir gan CThEF ar ymddygiad trethdalwyr, yn dilyn gweithredu cyfraddau treth gwahanol yn yr Alban.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch cyhoeddi Data Twf Chwarterol penodol i Gymru.

 

</AI9>

<AI10>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

6       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Craffu cyn y Gyllideb: Academyddion o Brifysgol Bangor

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio technegol cyn y Gyllideb gan Dr Rhys Ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor; a Dr Edward Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor.

</AI11>

<AI12>

7       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Craffu cyn y Gyllideb: Trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law

</AI12>

<AI13>

8       Goruchwylio Archwilio Cymru: Cod ymarfer sy’n llywodraethu’r berthynas rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru

8.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y Cod Ymarfer Cydberthynas diwygiedig rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 18.10(ix).

</AI13>

<AI14>

9       Cysylltiadau Cyllidol Rhynglywodraethol: Trafod yr adroddiad drafft

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>